Bywgraffiad
Perfformiad
Cerddoriaeth
Ymddangosiadau Cyhoeddus
Cymeriadau
Galeri
Adolygiadau
Dolennau
Cyswllt
English
Cedwir Pob Hawl.
© Gillian Elisa 2004 - 2010
|
Noson yng nghwmni Neil
Rosser, Ieuan Wyn a Gillian Elisa
Cafwyd gwledd o ganu a chomedi yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe fel rhan o Ŵyl
Fai'r Fenter dros benwythnos gŵyl y banc ar ddechrau mis Mai.
Agorwyd y noson mewn steil unigryw gan ein cyflwynydd am y noson, Gillian Elisa.
Yn dilyn ambell i stori ddifyr iawn gan Gillian, fe gyflwynwyd Ieuan Wyn a’r
Band i’r llwyfan. Talent newydd yw Ieuan o Gaerdydd, sydd ar y funud yn astudio
cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Canodd sawl clasur gan enwogion megis Huw
Chiswell a Delwyn Siôn, yn ogystal â nifer o’i gyfansoddiadau ef ei hun. I
orffen ei set, canodd ‘Gwenllïan Hâf’, ei gan a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth ‘Can i Gymru’ eleni.
Daeth pawb allan o’r Ganolfan Hamdden gyda gwên ar eu hwynebau, yn siarad am yr
holl berfformwyr a bu’n eu diddanu trwy gydol y noson a’n ysu am fwy…
Hoffai’r Fenter ddiolch i Neil Rosser a’i fand, Ieuan Wyn a’i fand a Gillian
Elisa am eu perfformiadau syfrdanol a wnaeth hi’n noson i’w chofio ym
Mhontardawe!
Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot 2008
Menter Iaith Castell Nedd
Port Talbot
|
Menter Iaith
Cwmllynfell
|