Bywgraffiad
Perfformiad
Cerddoriaeth
Ymddangosiadau Cyhoedduss
Cymeriadau
Galeri
Adolygiadau
Dolennau
Cyswllt
English
Cedwir Pob Hawl.
© Gillian Elisa 2004 - 2010 |
Ganed Gillian Elisa yng Nghaerfyrddin yn Awst 1953. Yn ystod ei phlentyndod cynnar yn Llanbed, daeth ei thalent
naturiol i’r amlwg wrth iddi ddatblygu ei sgiliau perfformio a diddanu. Gwnaed rhai o’r ‘ymddangosiadau’ cynnar hyn
tu ôl i lenni’r 'rwm ffrynt' wrth iddi ddiddanu ei theulu a’i ffrindiau. Yn fuan iawn, sylweddolodd bod ganddi’r ddawn
i wneud i bobl chwerthin. Yn yr ysgol yn Llanbed, gwelwyd bod ganddi dalent wrth iddi berfformio ar lwyfan am y tro
cyntaf yn Neuadd Buddug, fel dawnswraig flamenco, ac aeth yn ei blaen i berfformio’n rheolaidd mewn Eisteddfodau lleol.
Yn y chweched dosbarth, Gillian oedd cyd-awdures y
sioe gerdd Yr Enfys gydag Enfys Tanner (a ysgrifennodd tair gan ar gyfer Can i Gymru). Cyfarwyddwr Yr Enfys oedd
Gareth Jones, tad Gwyn Jones o Maffia Mr Huws, sy’n briod â Sian James a mae Gillian wedi canu deuawd gyda
Sian ar ei halbwm newydd Lawr Y Lein. Chwarae rhan Poli Gardis mewn cynhyrchiad cynnar o Dan Y Wenallt,
cyfieithiad Cymraeg T. James Jones o glausr Dylan Thomas, Under Milk Wood, oedd profiad cyntaf go-iawn
Gillian ym myd actio. Yn ystod golygfa lle roedd gofyn iddi sgrwbio’r llawr wrth berfformio monolog, mae
Gillian yn cofio’i hymdrech i ganolbwyntio ar sgrwbio’r llawr yn iawn er mwyn i’r olygfa fod mor realistig â phosibl
- techneg sy’n amlwg wedi aros gyda hi yn ei pherformiadau fyth ers hynny.
Yn ddeunaw oed, cafodd Gillian le yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, a daeth yn adnabyddus yn y fan
honno fel unigolyn talentog a hyblyg, gan ennill Gwobr y Prifathro am y Myfyriwr Mwyaf Gweithgar yn y flwyddyn gyntaf
a’r ail. Yn ystod ei sioe refiw olaf yn yr ail flwyddyn, yn chwarae rhan Grusha, prif gymeriad egnïol a phwerus drama
Bertolt Brecht “The Caucasian Chalk Circle”, fe ddaeth dau o gymeriadau blaenllaw y diwydiant adloniant Cymreig o
hyd iddi. Roedd John Hefin, Uwch-Gynhyrchydd yn BBC Cymru ac Ian Watt Smith o Gwmni Theatr Cymru, yn eistedd yn y
gynulleidfa, a chafodd Gillian gynnig gwaith yn syth ar ôl y sioe....
Tudalen Nesa |